28 Ionawr 2022

Y Gwir Anrh. Michael Gove AS 
 Yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau a'r Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol.

Annwyl Michael

Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Biliau’r DU

I gyflwyno fy hun, fi yw cadeirydd Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn y Senedd. Yn ogystal ag ystyried yr holl ddeddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth a osodir gerbron y Senedd, mae ein cylch gwaith eang yn rhoi cyfrifoldeb arnom i ystyried materion sy'n ymwneud â datganoli, y cyfansoddiad, cyfiawnder a materion allanol.

Un cyfrifoldeb penodol yw ystyried holl femoranda cydsyniad deddfwriaetholLlywodraeth Cymru a osodir gerbron y Senedd mewn perthynas â Biliau'r DU a gaiff eu hystyried gan Senedd y DU. Yn eich rôl fel y Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol, efallai y byddwch yn ymwybodol iawn bod y nifer i Filiau'r DU sy'n destun memoranda cydsyniad wedi cynyddu'n sylweddol yn ddiweddar o'u cymharu â thymhorau blaenorol y Senedd.

Hyd yma yn y Chweched Senedd hon, a ddechreuodd, fel y gwyddoch, fis Mai diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod memoranda cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â 17 o Filiau'r DU. Heddiw, rydym wedi gosod gerbron y Senedd ein hugeinfed adroddiad ar y materion hyn, mewn perthynas â Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Llywodraeth Cymru (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol. Mae'n dilyn adroddiad cynharach ar y Bil a gyhoeddwyd ym mis Medi 2021.

Er bod ein hystyriaeth o bob memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn canolbwyntio ar faterion penodol, mae nifer y memoranda cydsyniad yr ydym wedi adrodd arnynt o fewn cyfnod mor gymharol fyr wedi tynnu sylw at nifer o faterion cyfansoddiadol allweddol.

Mae ein dau adroddiad ar y memoranda cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol yn tynnu sylw at amrywiaeth o faterion. Hoffwn dynnu eich sylw at dri o'r materion hyn, y canfuom fod dau ohonynt yn gyffredin ar draws ein gwaith craffu ar femoranda cydsyniad ar gyfer Biliau eraill y DU. Felly, er bod y llythyr hwn yn canolbwyntio ar ein hystyriaeth o'r Bil Cymwysterau Proffesiynol fel enghraifft allweddol, nid yw'r materion y tynnwn i'ch sylw atynt wedi'u cyfyngu i'r un Bil hwn.

Ar y sail honno, byddem felly'n croesawu eich barn ar y materion canlynol, o ystyried eich cyfrifoldebau yn Llywodraeth y DU ar faterion sy'n ymwneud â chysylltiadau rhynglywodraethol.

Yn gyntaf, rydym yn pryderu fwyfwy am y nifer o Filiau'r DU sy'n cynnwys pwerau gwneud rheoliadau cydredol – pwerau y gall Gweinidogion Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol eu harfer mewn meysydd datganoledig – a'r goblygiadau sydd gan hyn o ran atebolrwydd y llywodraeth i'r deddfwrfeydd perthnasol, a gwaith craffu’r deddfwrfeydd hynny arnynt, ac ar y setliad datganoli ei hun.

Mae’r ffaith bod un o Weinidogion Llywodraeth y DU yn arfer pwerau o'r fath ar gyfer Cymru mewn maes datganoledig, heb rôl i'r ddeddfwrfa (neu, o dan rai amgylchiadau, y llywodraeth) yng Nghymru, yn ddefnydd diangen ac annerbyniol o bŵer, ac mae'n ychwanegu at y darlun dryslyd o atebolrwydd y llywodraeth, sydd eisoes yn aneglur.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS, wrthym fod "Llywodraeth y DU wedi gwrthod dileu'r pwerau cydredol a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol a'r Arglwydd Ganghellor" sy'n ymddangos yng nghymal 1 o'r Bil Cymwysterau Proffesiynol. Er ein bod yn anghytuno â'r dull a gaiff ei ffafrio gan y Gweinidog ar gyfer ceisio datrys y gwrthdaro hwn – drwy ofyn i'r Bil gael ei ddiwygio i roi rôl i Weinidogion Cymru ac nid y Senedd wrth gydsynio i reoliadau o'r fath cyn y gellir eu gwneud – rydym yn cydnabod bod y Gweinidog wedi gwneud ymdrechion i weithio ar draws y rhaniad rhynglywodraethol. 

Rydym yn rhannu pryderon y Gweinidog ynghylch cynnwys pwerau cydredol yn y Bil. Mae ein pryderon yr un mor berthnasol i bresenoldeb yr holl bwerau cydredol o'r fath ym Miliau'r DU.

Yn ail, nid yw’r Bil Cymwysterau Proffesiynol, yn anffodus, yn ddim ond un ymysg nifer o Filiau a fyddai, fel y'u drafftiwyd ar hyn o bryd, yn caniatáu – drwy gyfuniad o swyddogaethau cydredol a phwerau Harri VIII – i’r Ysgrifennydd Gwladol neu'r Arglwydd Ganghellor ddiwygio nid yn unig Deddfau'r Senedd ond, Deddf Llywodraeth Cymru 2006, sydd hyd yn oed yn fwy o bryder. Ni chredwn fod hyn yn dderbyniol.

Rydym yn ymwybodol bod y Gweinidog wedi ysgrifennu at yr Arglwydd Grimstone ac wedi gofyn am ddiwygiad i'r Bil Cymwysterau Proffesiynol i'r perwyl na all Gweinidogion y DU ddefnyddio'r pwerau yn y Bil i wneud rheoliadau sy'n diwygio Deddf 2006. Rydym yn cefnogi’r safbwynt hwn yn gryf.

Nid dyma'r unig un o Filiau’r DU a gyflwynwyd i Senedd y DU a fyddai'n caniatáu i reoliadau o'r fath gael eu gwneud. Ar adegau, mae Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i negodi gwelliannau fel y disgrifir uchod. Credwn na ddylai pwerau gwneud rheoliadau o'r fath ddod yn nodwedd awtomatig pan gaiff Biliau eu drafftio gan Lywodraeth y DU.

Hoffwn dynnu eich sylw hefyd at drydydd mater, sy'n benodol i gymal 16 o'r Bil Cymwysterau Proffesiynol, a ddisgrifiodd y Gweinidog i ni fel un sy'n cynnwys "cyfyngiad sy'n unigryw i bwerau Gweinidogion Cymru".

Mae'r Gweinidog wedi dweud wrthym yn ddiweddar ei fod wedi tynnu sylw at ei bryderon ei hun ynglŷn â'r cymal hwn. Fodd bynnag, heb ragor o wybodaeth neu dystiolaeth o newidiadau i wyneb y Bil, ein barn ni o hyd yw y bydd y cymal fel y'i drafftiwyd yn golygu y bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn am gydsyniad Gweinidog y Goron ar gyfer unrhyw reoliadau sy'n cynnwys darpariaethau a fyddai, pe bai wedi'i gynnwys mewn Deddf yn y Senedd, yn gofyn am gydsyniad Gweinidog y Goron. O dan Atodlen 7B i Ddeddf 2006, unwaith y bydd pŵer i wneud rheoliadau wedi'i roi drwy Ddeddf gan y Senedd gyda chydsyniad un o Weinidogion y Goron, gall Gweinidogion Cymru arfer y pŵer hwnnw heb y cyfyngiad i ofyn eto am gydsyniad un o Weinidogion y Goron ar gynnwys y rheoliadau. Felly, yn ein barn ni, mae cymal 16(5) o’r Bil Cymwysterau Proffesiynol yn bŵer anarferol ac annerbyniol i'w gynnwys mewn Bil.

Edrychaf ymlaen at gael ymateb gennych cyn gynted â phosibl sy'n mynd i'r afael â'r pwyntiau a ddisgrifir uchod.

Rydym yn cydnabod y gellir datrys y materion hyn yn y dyfodol yn unol â'r pecyn terfynol o ddiwygiadau a gyhoeddwyd yn dilyn yr Adolygiad o Gysylltiadau Rhynglywodraethol. O ran yr Adolygiad hwnnw, o ystyried eich cyfrifoldeb Gweinidogol yn y meysydd hyn, byddai croeso i chi ddod i gyfarfod yn y dyfodol i drafod materion o'r fath ymhellach a/neu unrhyw fater arall sy'n berthnasol i'n priod gyfrifoldebau. Byddem yn ystyried cyfarfod o'r fath yn rhan o ddeialog adeiladol barhaus rhwng y gwahanol gyrff o fewn fframwaith cyfansoddiadol y DU.

Rwy'n anfon copi o’r llythyr hwn at yr Arglwydd Grimstone o Boscobel Kt; Kwasi Kwarteng AS, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol; y Gwir Anrhydeddus Simon Hart AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru; a’r Gweinidog y Gymraeg ac Addysg. Rwyf hefyd yn anfon copi o'r llythyr at Gadeiryddion Pwyllgor Cyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi, Pwyllgor Pwerau Dirprwyedig a Diwygio Rheoleiddio Tŷ'r Arglwyddi, a Phwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Tŷ'r Cyffredin.

Yn gywir

Huw Irranca-Davies
Cadeirydd